minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Ardel Weinidogaeth Bro Eleth

Croeso i Bro Eleth, rydyn ni’n gwasanaethu ardal wledig hyfryd gogledd Ynys Môn, gyda’i harfordir garw, ei thraethau rhagorol, ei hanes diwydiannol, ac eglwysi sy'n ddigon o ryfeddod. Mae’r ardal yn baradwys i bobl sy’n frwd dros yr awyr agored, ond mae hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o leoedd sydd o ddiddordeb i lawer o ymwelwyr eraill. Mae rhai o’r golygfeydd gorau ar yr ynys i'w cael yma.

Bro Eleth Ministry Area

Welcome to Bro Eleth, we cover the beautiful rural area of northern Anglesey, with its rugged coastline, outstanding beaches, industrial history, and some wonderful churches. The area is a paradise for outdoor enthusiasts, but also contains a wide diversity of places with interests for many other visitors, and has some of the best views on the island.


Bro Eleth

Rydym yn rhan o Esgobaeth Bangor yr Eglwys yng Nghymru (Anglicanaidd) ond mae croeso i bawb i’n gwasanaethau. Mae deg eglwys ym Mro Eleth, gyda chwech yn cynnal gwasanaethau yn Gymraeg, Cymraeg/Saesneg, neu Saesneg. Edrychwch ar ein heglwysi drwy ddilyn y ddolen isod.

Bro Eleth

We are part of the Diocese of Bangor of the Church in Wales (Anglican) but all are welcome to our services. There are ten churches in Bro Eleth, with six conducting services in either Welsh, Welsh/English, or English. Please have a look at our churches in the link below.

Digwyddiadau bywyd

Ar gyfer pob cam o'n bywydau, mae'r Eglwys yno gyda chi: o fedydd; datblygu eich gwerthoedd; moesau a ffydd; conffyrmasiwn; priodasau; a ffarwelio ag anwyliaid. Mae’r eglwys yn dod â chymuned at ei gilydd lle gall aelodau gysylltu drwy eu cariad at yr Arglwydd a rhannu eu taith a’u llawenydd gydag eraill. Mae’n deulu sydd wedi ei wasgaru ar draws y byd sy’n croesawu pawb.

Mae rhai o’r digwyddiadau allweddol hyn yn cael sylw ar ein tudalen Digwyddiadau Bywyd.

Life events

For all stages of our lives, the Church is with you: from baptism; the development of your values; morals and faith; confirmation; weddings; and saying goodbye to loved ones. The church brings together a community in which members can connect through their love of the Lord and share their journey and joy with others. It is a family scattered across the globe that welcomes all.

Some of these key events are covered on our Life Events page. 

Cristionogaeth

Mae Cristnogion yn bobl sy’n credu mewn Duw ac sy’n ymrwymo i fod yn ddilynwyr i fab Duw, Iesu. Gall dilyn Iesu olygu llawer o bethau, ond mae’n dechrau gyda pherthynas. Yn gyntaf, mae’n ymwneud â’n buddsoddiad personol ein hunain o amser a gweddi wrth ddod i adnabod Iesu, ond hefyd sut mae’r berthynas honno’n effeithio ar ein perthynas ag eraill. Mae Cristnogion yn credu bod ffurfio perthynas ag Iesu yn ein trawsnewid ac yn rhoi ystyr i fywyd.

Christianity

A Christian is someone who both believes in God and who commits to be a follower of the Son of God, Jesus. Following Jesus can involve many things, but it starts with relationship. First, it’s about our own personal investment of time and prayer in getting to know Jesus, but also how that relationship affects our relationships with others. Christians believe that forming a relationship with Jesus transforms us and gives meaning to life.