minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Bible
English

Darllen y Beibl

Mae darllen y Beibl yn helpu i ddatblygu ein perthynas â Duw. Nid yn unig mae’n gasgliad anhygoel ac ysbrydoledig o lyfrau, ond gall Duw siarad â ni’n bersonol a’n hannog drwy ei eiriau.

Os nad ydych chi’n gyfarwydd â'r Beibl, beth am ddechrau gydag un o'r Efengylau (Mathew, Marc, Luc, neu Ioan) a geir ar ddechrau'r Testament Newydd. Mae’r pedwar llyfr hyn yn adrodd hanes bywyd, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu.

Weithiau gall fod yn anodd deall y Beibl. Mae digon o lyfrau, gwefannau ac apiau sy’n gallu eich helpu i’w ddarllen a’i ddeall yn well. Gall y ddolen isod fod yn lle defnyddiol i ddechrau:

Fodd bynnag, cofiwch, pan fyddwch chi’n ymuno ag eglwys, mae gennych chi deulu newydd, a bydd pawb yno i’ch helpu ar y daith hon, boed hynny ar gyfer cyngor neu ar gyfer grŵp astudio’r Beibl

Pa fersiwn o'r Beibl ddylwn i ei ddefnyddio?

Nid yw’r cyngor ar ba fersiwn o’r Beibl i’w ddewis yr hyn y byddech chi'n ei ddisgwyl, nid oes ymgais i ddeddfu, dim ond anogaeth i’r cyfeiriad ‘cywir’. Dyma restr o’r fersiynau a argymhellir.

  • Y Fersiwn wedi ei Hawdurdodi neu Feibl y Brenin Iago (AV), a gyhoeddwyd ym 1611, y cyhoeddwyd Fersiwn Ddiwygiedig ohono yn 1881-5. Fe’i hysgrifennwyd mewn iaith draddodiadol.
  • Y Fersiwn Ryngwladol Newydd (NIV), dan hawlfraint 1973-1984 gan Gymdeithas Ryngwladol y Beibl, a ysgrifennwyd mewn iaith fodern.
  • Beibl Jerwsalem Newydd (NJB), a gyhoeddwyd ym 1985 – fersiwn ddiwygiedig o Feibl Jerwsalem (JB), a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym 1966, a oedd yn seiliedig ar Bible de Jérusalem (1956), a ddefnyddir yn fwyaf aml yn yr Eglwys Gatholig.
  • Y Fersiwn Safonol Ddiwygiedig Newydd (NRSV), adolygiad cynhwysol o'r RSV, a gyhoeddwyd mewn fersiwn wedi ei anglicaneiddio ym 1989 ac a ystyrir yn fersiwn awdurdodedig gan y rhan fwyaf o eglwysi Anglicanaidd, gan gynnwys yr Eglwys yng Nghymru.
  • Y Fersiwn Safonol Saesneg (ESV), a gyhoeddwyd yn 2002 ac sy’n seiliedig ar yr RSV, gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi, ym maes iaith rhywedd, i ddatgan yn llythrennol yr hyn sydd yn y gwreiddiol
  • Cyfieithiad y Newyddion Da (GNT), a gyhoeddwyd ym 1976 fel Beibl iaith gyffredin. Mae’n gyfieithiad modern clir a syml ac fe’i defnyddir gan lawer o eglwysi.
  • Ar gyfer Beiblau a gyhoeddwyd yn Gymraeg

  • Beibl William Morgan, a gyhoeddwyd ym 1588 (diwygiwyd 1620). Y cyfieithiad hwn oedd y fersiwn safonol cyntaf mewn Cymraeg ysgrifenedig a dyma oedd yr unig Feibl Cymraeg tan 1988. Dyma’r fersiwn y cerddodd Mary Jones i’r Bala i’w brynu.
  • Cyhoeddwyd y Beibl Cymraeg Newydd yn gyntaf ym 1988 ac fe’i diwygiwyd yn 2004. Dyma’r cyfieithiad Cymraeg modern safonol ar gyfer siaradwyr a dysgwyr fel ei gilydd, a ddefnyddir mewn eglwysi, capeli ac ysgolion.
  • Beibl.net Y cyfieithiad Cymraeg diweddaraf o’r Beibl, sy’n defnyddio iaith bob dydd syml (2015, diwygiwyd 2021) ac sy’n arbennig o hygyrch i ddysgwyr.

  • Mwy nag un cyfieithiad?

    Dylid ystyried bod cael sawl cyfieithiad yn fantais wrth ddarllen y Beibl, gan ei fod yn eich galluogi i weithio drwy'r darnau anodd hynny, gan wybod os oes mân wahaniaethau yn y cyfieithiad, yn enwedig gyda rhai o'r cymwysiadau rhad ac am ddim, y gellir eu dangos ochr yn ochr.

    Cymraeg

    Read the Bible

    Reading the Bible helps grow our relationship with God. Not only is it an amazing and inspiring collection of books, but God can speak to us personally and encourage us through its words.

    If you’re not used to the Bible, why not start with one of the Gospels (Matthew, Mark, Luke, or John) that are found at the beginning of the New Testament. These four books tell the story of Jesus’ life, death, and resurrection.

    The Bible can sometimes be difficult to understand. There are plenty of books, websites and apps which can help you read and understand it better. The link below may be a helpful place to start:

    However, don’t forget that when you join a church, you have a new family, and all will be there to help you on this journey, whether its for advice or for a bible study group. 


    Which bible version should I use?

    The advice on what Bible version to choose is not what you might expect, there is no attempt to lay down the law, but more of a simple nudge in the 'right' direction, this is the list of recommended versions. 

    • The Authorized Version or King James Bible (AV), published in 1611, of which a Revised Version was published in 1881-5. It is written in traditional language.

    • The New International Version (NIV), copyrighted 1973-1984 by the International Bible Society, written in modern language.

    • The New Jerusalem Bible (NJB), published in 1985 - a revision of the Jerusalem Bible (JB), originally published in 1966, which was based on the Bible de Jérusalem (1956), most often used in the Catholic Church.

    • The New Revised Standard Version (NRSV), an inclusivized revision of the RSV, published in an anglicized version in 1989 and is considered the authorised version by most Anglican churches, including the Church in Wales.

    • The English Standard Version (ESV), published in 2002 and based on the RSV, with priority given, in the area of gender language, to rendering literally what is in the original

    • The Good News Translation (GNT), published in 1976 as a common language bible. It is a clear and simple modern translation and is used by many churches.


    For bibles published in Welsh

    • William Morgan Bible Published 1588 (revised 1620), this translation was the first standard version of written Welsh and was the only Welsh Bible until 1988. This was the version that Mary Jones walked to Bala to buy.

    • Cymraeg Newydd First published in 1988 and revised in 2004, this is the standard modern Welsh translation for speakers and learners alike, used in churches, chapels and schools.

    • Beibl.net The latest Welsh translation of the Bible, using simple everyday language (2015, revised 2021) and especially accessible for learners.

    Multiple translations ?

    Having multiple translations should be seen as an advantage when reading the bible, as it allows you work through those difficult passages, knowing if there are any subtleties in the translation, especially with some of the free applications that can show them side by side.