minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Addoli a Chaneuon

Mae cydaddoli mewn eglwys yn rhan ganolog o fod yn Gristion. Gall fod ar sawl ffurf ac arddull, o wasanaethau traddodiadol yn yr iaith fodern neu’r iaith draddodiadol, i wasanaethau mwy hamddenol a gweddïau tawel i fyfyrio. Mae’r Eglwys yng Nghymru yn defnyddio gwahanol fathau o weddïau a cherddoriaeth yn dibynnu ar yr eglwys a’r gwasanaeth.

Llyfr Gweddi Gyffredin.

Mae cyfraith addoli yr Eglwys yng Nghymru wedi ei chynnwys yn y Llyfr Gweddi Gyffredin. Datblygodd y llyfr o’r Diwygiad ym 1552 ac roedd yn cynnwys diwinyddiaeth Brotestannaidd drwyddi draw, ond gyda gwasanaethau traddodiadol. Cyhoeddwyd y fersiwn gyntaf yn Gymraeg ym 1567.

Cafodd ei ddiwygio ymhellach yn yr ail ganrif ar bymtheg, y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Ond mewn adolygiad o'r fath, ni fu erioed unrhyw fwriad i wyro oddi wrth athrawiaeth, disgyblaeth nac addoliad yr Eglwys.

Llyfr Gweddi Gyffredin.
Llyfr Gweddi Gyffredin - CB

Mae’r llyfr gweddïau’n cynnwys pob math o wasanaeth ar gyfer addoli bob dydd ac ar y Sul. Mae hefyd yn cynnwys y Foreol Weddi, Hwyrol Weddi, y Litani, Cymun Bendigaid, y drefn ar gyfer Bedydd, priodas, a gwasanaeth angladd. Mae hefyd yn nodi’n llawn y rhannau “priod” (y rhannau o’r gwasanaeth sy’n amrywio drwy gydol y flwyddyn). Yna, mae’r yntredau, y colectau, yn epistolau, yr efengylau, darlleniadau o’r Hen Destamentau a'r Testament Newydd, Salmau a chanticlau. Yn ei hanfod, popeth sydd ei angen ar Gristion i weddïo ac addoli.

‘Y Cymun Bendigaid 2004 a gweddïau modern’

Yn 2004 gwelwyd y diwygiad awdurdodedig cyntaf o’r gweddïau a’r addoliadau i iaith fodern. Cymerir gofal mawr wrth gyhoeddi gweddïau newydd ac mae’r rhain yn dechrau o sail ein cred a’n traddodiadau.

Mae’r gwaith o ddatblygu adnoddau gweddïo ac addoli modern yn parhau, gyda gwasanaethau ar gyfer bedydd, priodas ac angladd, yn ogystal â deunydd tymhorol i’w ddefnyddio drwy gydol y flwyddyn. Mae’r eglwys hefyd yn ymateb i newidiadau mewn cymdeithas a bywyd modern drwy ystyried cyhoeddi gweddïau newydd lle bo hynny’n briodol. Er enghraifft, gwasanaethau coffa i’w defnyddio ar ôl pandemig Covid 19, a gweddïau i ddathlu Priodas Sifil neu Bartneriaeth Sifil o’r un rhyw.

Caneuon Ffydd
Caneuon Ffydd

Mae canu emynau yn rhan annatod o addoli Anglicanaidd a gall gynnwys canu cynulleidfaol yn ogystal â chanu corawl. Yn dibynnu ar y gwasanaeth, bydd yn cynnwys rhwng dau a phedwar emyn. Yn flaenorol, byddai emyn Cyflwyno yn cael ei ganu ar ddechrau gwasanaeth, emyn Graddol cyn yr Efengyl, emyn yn cael ei ganu yn ystod y casgliad ac emyn ôl-ymdeithiol ar ddiwedd gwasanaeth. Mae’r rhain yn gyfuniadau eraill gyda llawer mwy yn cael eu canu mewn gwasanaeth carola

Mae addoliad preifat hefyd yn rhan o fywyd Cristion. Gall hyn fod ar unrhyw ffurf sy’n addas i chi, ond gall gynnwys gwrando ar gerddoriaeth Gristnogol, siarad â Duw mewn gweddi, bod yn greadigol gyda chelf a chrefft, neu ddathlu creadigaeth Duw yn yr ardd neu’r awyr agored.

Cymraeg

Worship and Song

Worshipping together in church is a central part of being a Christian. It can take many forms and styles from traditional services in both modern or traditional language, to more relaxed services and quiet contemplative prayers. The Church in Wales uses different types of prayers and music depending on the church and the service.


Book of Common Prayer.

The law of worship of the Church in Wales is contained in the Book of Common Prayer. The book came out of the Reformation in 1552 and contained Protestant theology throughout but with traditional services. The first version in Welsh came out in 1567.

It was further reformed in the seventeenth, ninetieth and twentieth century's. But in such revision there has never been any intention to depart from the doctrine, discipline or worship of the Church.


Book of Common Prayer.
Book of Common Prayer - MaEP

The prayer book includes complete forms of service for daily and Sunday worship. It also contains Morning Prayer, Evening Prayer, the Litany, Holy Communion, the orders for Baptism, marriage, and a funeral service. It also sets out in full the "propers" (the parts of the service which varied throughout the year). Then the introits, collects, epistles, gospel readings from Old and New Testaments, Psalms and canticles. Essentially everything a Christian needs for worship and prayer.


‘The Holy Eucharist 2004 and modern prayers’

2004 saw the first authorised revision of the prayers and worship into modern language. Great care is taken with the publication of new prayers and these begin from the basis of our belief and traditions.

The development of modern prayers and worship resources continues, with services for baptism, marriage and funeral, as well as seasonal material for use throughout the whole year. The church also responds to changes in society and modern life by considering the publication of new prayers where appropriate. For example, memorial services particularly for use after the Covid 19 pandemic, and prayers to celebrate same-sex Civil Marriage or Civil Partnership. 


Hymns Old & New NA-E
Hymns Old & New - New Anglican Edition

The singing of hymns is an integral part of Anglican worship and can include both congregational singing as well as a choir. Depending on the service, it will include between two and four hymns. Formerly there would be an Introit hymn sung at the start of a service, a Gradual hymn precedes the Gospel, an Offertory hymn is sung during the Offertory and a recessional hymn at the close of a service. The are other combinations with a much greater number being sung in a carol service.

Private worship is also part of the life of a Christian. This can take any form which suits you, but may include listening to Christian music, talking to God in prayer, being creative with arts and crafts, or celebrating God’s creation in the garden or the great outdoors.