Beth yw Cristion?
Mae Cristnogion yn bobl sy’n credu mewn Duw ac sy’n ymrwymo i fod yn ddilynwr i fab Duw, Iesu. Gall dilyn Iesu olygu llawer o bethau, ond mae’n dechrau gyda pherthynas. Yn gyntaf, mae’n ymwneud â’n buddsoddiad personol ein hunain o amser a gweddi wrth ddod i adnabod Iesu, ond hefyd sut mae’r berthynas honno’n effeithio ar ein perthynas ag eraill. Mae Cristnogion yn credu bod ffurfio perthynas ag Iesu yn ein trawsnewid ac yn rhoi ystyr i fywyd.
Gweddi
Ystyr gweddi yw siarad â Duw a gwrando arno Ef. Nid oes angen geiriau mawr, hir arnoch, dim ond bod yn agored ac yn onest. Os nad ydych chi wedi arfer gweddïo, mae gan wefan yr Eglwys yng Nghymru gyngor defnyddiol i’ch rhoi chi ar ben ffordd. Yn ogystal, mae nifer o apiau Anglicanaidd fel Time to Pray neu Daily Office a fydd yn eich tywys drwy’r foreol neu’r hwyrol weddi, gan fagu eich hyder yn raddol.
Ffydd
Er y gallai arddel ffydd fod yn foment benodol, mae hefyd yn daith, lle rydych chi’n dod yn rhan o deulu newydd, a byddwch eisiau gwybod mwy. Er bod gan wefan yr Eglwys yng Nghymru ddigon i chi ddechrau arni, bydd eich teulu eglwysig newydd yno i’ch helpu ar eich taith.
What is a Christian?
A Christian is someone who both believes in God and who commits to be a follower of the Son of God, Jesus. Following Jesus can involve many things, but it starts with relationship. First, it’s about our own personal investment of time and prayer in getting to know Jesus, but also how that relationship affects our relationships with others. Christians believe that forming a relationship with Jesus transforms us and gives meaning to life.
Prayer
Prayer is simply talking to God and listening to Him. You do not need big, long words, just be open and honest. If you’re not used to praying, the Church in Wales site has some helpful advice to get you started. There are also a number of Anglican apps like Time to Pray or Daily Office that will walk you through morning or evening prayer which in turn builds you confidence.
Faith
While coming to faith might be a moment in time, it is also a journey, where you become part of a new family and you will want to know more. While the Church in Wales site has plenty for you to get started with, your new church family will be there to assist you in your journey.