minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Eglwys St Eilian Church, Llaneilian
Eglwys St Eilian Church, Llaneilian
English

Mae Eglwys Sant Eilian ar arfordir gogledd-ddwyreiniol Ynys Môn ac mae modd mynd ati ar hyd lonydd llai oddi ar yr A5025. Mae’r adeilad eglwysig canoloesol hwn yn un o’r rhai mwyaf diddorol ar yr ynys. Mae’n dyddio o’r 12fed i’r 15fed ganrif, gyda meindwr pyramidaidd anarferol. Roedd hwn yn dirnod nodedig i forwyr ar y pryd ac mae’n cynnwys tair cloch, gyda dau ohonynt wedi eu dyddio i 1638 a 1677.

Mae tu mewn yr eglwys yn nodedig am ei cherfiadau pren, a’r mwyaf amlwg yw Sgrin dderw wedi ei gerfio’n gain, sy’n gwahanu corff yr eglwys oddi wrth y gangell. Mae’n dyddio o 1496 ac yn cynnwys sgerbwd gyda’r neges lem: ‘Colyn angau yw pechod’.

Mae’r dyddiad 1634 i'w weld ar yr allor pren ac mae’n cynnwys geiriau adnod gyntaf Salm 115:

“Nid i ni, O Arglwydd, nid i ni, ond i’th enw dy hun”.

Mae cist dderw solet yn dyddio o 1667 yma, a oedd ar gyfer casglu’r darnau grôt gan bererinion a oedd yn ymweld â Chrair y Saint yn yr Oesoedd Canol.

Mae’n bosibl bod y Capel bach, sydd bellach wedi ei gysylltu â’r brif Eglwys drwy lwybr bach, yn dyddio o’r 14eg ganrif ac fe’i hadeiladwyd ar safle Cell wreiddiol Sant Eilian o’r 5ed ganrif.

Mae gan yr Eglwys hanes hynod ddiddorol gyda llawer o arteffactau eraill, rhai gyda dyddiadau wedi eu hysgythru neu wedi eu cerfio sy’n swyno ymwelwyr, ond mae hefyd yn fan addoli gweithredol sy’n croesawu ymwelwyr yn gynnes i’w gwasanaethau.

Mae’r eglwys rywfaint o bellter oddi wrth Ffynnon Eilian, sef ffynnon sanctaidd sy’n gysylltiedig â stori Sant Eilian. Yn ôl y chwedl, roedd y ffynnon yn lle i weddïo a chael bendithion neu iachâd ac ar gyfer dial. Mae arwyddion yn cyfeirio pobl ar hyd y llwybr i’r ffynnon i’r chwith o borth y fynwent i mewn i’r fynwent.

Cymraeg

St Eilian is situated on Anglesey’s north-east coastline and is accessible via lanes from the A5025. The church building is one of the most interesting on the island. It dates from the 12th to the 15th century, with an unusual pyramidal spire. This was a notable landmark for mariners of the time and holds three bells, two are dated 1638 and 1677.

The interior of the church is noted for its wood carvings, the most prominent being the Rood Screen of richly carved oak, which separates the Nave from the chancel. It dates from 1496, and features a skeleton with the stern message: ‘Sin is the sting of Death’. 

The wooden alter bears the date 1634 and has the words of the first verse of Psalm 115:

“Not unto us, O Lord, not unto us, but unto thy Name..”.

There is a solid oak chest dating from 1667 which was for collecting the great pieces from pilgrims visiting the Saints Shrine in the Middle Ages.

The small Chapel which is now connected to the main Church via a small passageway is possibly late 14th century and was built on the site of the original St Eilian’s Cell from the 5th century.

The Church has a fascinating history with many other artefacts, some with engraved or carved dates to enthral the visitor, but it is also an active place of worship that warmly welcomes visitors to its services. 

The church lies a short distance from Fynnon Eilian, St Eilian’s Well, a holy well connected to the story of St Eilian. Legend says that the well was both a place of praying for blessings or healings and for revenge. The path to the well is signposted to the left of the Lychgate into the churchyard.