Mae eglwys Mihangel Sant yn rhan o gymuned wledig Penrhosllugwy. Mae’r eglwys wedi ei lleoli oddi ar y ffordd fawr, rhwng Moelfre a Mynydd Bodafon; gyda’r ddwy ardal yn cynnig teithiau cerdded braf a golygfeydd rhagorol.
Mae’r eglwys yn ganoloesol ac yn rhan o ‘Llan’ ehangach sy’n dyddio o’r 14eg ganrif. Mae drws gogleddol yng nghorff yr eglwys o ddechrau’r 15fed ganrif, ac mae wal ddeheuol y gangell yn cynnwys carreg gyda’r arysgrif: ‘HIC IACIT / MACCVDECCETI’ (D wedi ei wrthdroi), wedi ei ddyddio i ganol y 6ed ganrif. Adferwyd yr eglwys ym 1865 pan ychwanegwyd y portsh gogleddol a’r festri.
Cafodd yr eglwys ei hadeiladu o rwbel calchfaen gyda gwaith addurniadol carreg rud a tho llechi, ac mae clochdy serth yn y pen gorllewinol hefyd. Mae’r cynllun yn un syml, gyda chorff a changell, portsh gogleddol a festri. Yng nghanol y gangell mae dau fwa gyda ffenestr ddwyreiniol yn dyddio o tua 1400.
Mae’r ardal yn cynnwys anheddiad hanesyddol Din Lligwy, Tyddyn Brythonig-Rufeinig, y credir ei fod yn gartref i gymuned ffermio gyda dau dŷ crwn ac ysguboriau neu weithdai petryal. Yn agos at Din Lligwy mae adfeilion Capel Lligwy yn dyddio o’r 12fed ganrif.
St Michael church is part of the rural community of Penrhoslligwy. It is set back from the road and is situated between Moelfre and Mynydd Bodafon; with both areas offering nice walks and excellent views.
The church is medieval and forms part of an enlarged ‘Llan’ dating from the 14th century. There is a north doorway in the nave from the early 15th century, and the south wall of the chancel contains a stone inscribed with the Roman Capitals: ‘HIC IACIT / MACCVDECCETI’ (D reversed), dated to the mid-6th century. The church was then restored in 1865 when the north porch and vestry were added.
The church was built from limestone rubble with gritstone dressing and a slate roof, there is also a steep west bellcote. The layout is a simple nave and chancel with a north porch and vestry. The chancel has two centred arches with an east window from around 1400.
The area contains the historic settlement of Din Lligwy, a Romano-British Homestead, thought to be a farming community with two round houses and rectangular barns or workshops. Close to Din Lligwy is the ruin of Caple Lligwy dating from the 12th century.